Mae'r cwrs wedi ei rannu'n bedair 'Safon' gyda 36 o rifynnau misol ar gyfer pob safon. Mae'n adrodd storïau Beiblaidd sylfaenol ac yn sôn am gymeriadau pwysig o'r Hen Destament a'r Testament Newydd. Mae pob rhifyn wedi ei rannu'n bedair gwers, un i bob wythnos. Nid oes rheol bendant ond yn fras, mae pob Safon wedi ei hanelu at y lefelau darllen a ganlyn.

     Safon 1 - 4 i 6 oed
     Safon 2 - 7 i 9 oed
     Safon 3 - 10 i 12 oed
     Safon 4 - 13 i 15 oed

Os hoffech dderbyn copïau o'r gwersi wedi eu hargraffu am ddim bob mis yn y post, eu cael wedi eu marcio ac efallai dderbyn gwobrau yn seiliedig ar eich sgôr, ymunwch ag un o'r Postal Bible Schools.